FdSc Gradd Sylfaen mewn Amaethyddiaeth (2 Years Gelli Aur Campus)
入学要件
詳細
Rhoddir mynediad i ymgeiswyr sy'n dangos y gallu academaidd a'r potensial i elwa o'r rhaglen. Disgwylir i fyfyrwyr fod â phedwar TGAU gradd C ac uwch, ynghyd â 40 pwynt UCAS. Bydd ceisiadau gan ddysgwyr hyn nad ydynt efallai'n bodloni'r meini prawf hyn yn cael eu hystyried yn ôl eu teilyngdod eu hunain mewn cyfweliad yn seiliedig ar eu profiad eu hunain a chymwysterau eraill y gallant fod wedi'u hennill sy'n berthnasol i'r diwydiant. Mae'r coleg yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr ag ystod o gymwysterau galwedigaethol priodol a phrofiad yn ogystal â'r llwybr Safon Uwch traddodiadol. Gallai'r rhain gynnwys y Fagloriaeth Lefel 3, Prentisiaethau, NVQs, AVCEs, Diplomâu Cenedlaethol a Thystysgrifau Cenedlaethol Uwch, Diploma Atodol a Diploma NPTC Lefel 3. Nod y coleg yw darparu hyfforddiant theori ac ymarferol realistig i'r rheiny sy'n bwriadu camu i'r diwydiant fel ffermwyr, rheolwyr busnesau a rheolwyr ffermydd neu weithio yn y diwydiannau gwasanaethau amaethyddol. Ar ôl cwblhau'r Radd Sylfaen yn llwyddiannus gall myfyrwyr symud ymlaen i'r rhaglen gradd BSc mewn Amaethyddiaeth.
コース概要
学部
Landbased Studies
開講日
2026-09